Gall pobl hŷn fod ag amrywiaeth o anghenion deietegol. Mae pobl sy’n dioddef o ddiabetes, sy’n iach a chyda chwant bwyd da yn gallu mwynhau deiet iachus, cytbwys (cyfeiriwch at adran Canllaw Bwyta’n Dda).
Mae nifer o bobl hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yn fwy tebygol o gael anghenion cefnogaeth a/neu gyflyrau iechyd sy’n effeithio ar eu cymeriant bwyd a diod, e.e. colli pwysau, problemau llyncu a all fod angen deietau gyda gweadau bwyd wedi’u haddasu, hwyliau isel, iselder a dementia. Golyga hyn ei bod yn bwysicach fyth sicrhau bod y bwyd a diod a ddarperir yn flasus, yn faethlon ac yn hygyrch, er mwyn cynnal eu hiechyd a’u llesiant.
- Mae prydau bwyd, diodydd a byrbrydau (os oes eu hangen) yn rhoi strwythur i’r diwrnod
- Mae’n hanfodol sicrhau bod yr unigolyn yn yfed digon. Rhowch ddiod yn rheolaidd yn ystod y diwrnod, ac annog yr unigolyn i yfed, e.e. dŵr, te, coffi, cordial a diodydd meddal cloriau isel/dim siwgr ychwanegol, e.e. deiet/sero etc
Nid oes modd mwyach labelu bwyd yn rhai diabetig neu’n addas ar gyfer pobl ddiabetig, mae’n bosibl eu bod wedi’u labelu’n ‘llai o siwgr’ neu ‘dim siwgr ychwanegol’ y gellir eu defnyddio fel rhan o ddeiet cytbwys, (gweler yr adran Labelu Bwyd).
Cydbwyso Gofynion Maethol drwy gydol y Diwrnod
Gall pawb fwynhau bwyta’n iach. Mae bwyta’n iach pan mae gan rywun ddiabetes yr un fath â bwyta’n iach ar gyfer pobl nad ydynt yn ddiabetig. Mae bwyd a maeth, yn ogystal â meddyginiaeth yn ôl yr angen a gweithgareddau, yn rhan annatod o reoli diabetes. Dylai bod pobl sy’n dioddef o ddiabetes yn gallu parhau i fwynhau amrywiaeth eang o fwydydd.
Defnyddir y Canllaw Bwyta’n Dda ledled y DU i helpu pawb ddeall beth yw’r cydbwysedd delfrydol ar gyfer bwydydd ar gyfer deiet iachus, ac mae wedi’i anelu at blant dros 5 oed, pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn sy’n dda eu hiechyd. Mae’n hyrwyddo deiet cytbwys, iachus gyda llawer o ffrwythau a llysiau, grawnfwydydd a grawn ffeibrog, braster, siwgr ac sy’n isel mewn halen er mwyn helpu i atal nifer o gyflyrau sydd ynghlwm wrth ddeiet gwael.
Faint a pha fath o fwydydd i’w cael yn ystod y dydd
I’r rheini sydd â chwant bwyd da, mae’r Canllaw Bwyta’n Dda yn ein hannog ni i ddewis amrywiaeth o fwydydd o’r 5 grŵp bwyd er mwyn ein helpu ni i gael yr ystod eang o faetholion sydd eu hangen ar ein cyrff i gadw’n iach.
Efallai fod y rheini nad oes ganddynt chwant bwyd da yn gweld prydau bwyd a byrbrydau llai, mwy aml yn haws eu rheoli. Mae’n bosibl y bydd angen cydbwysedd gwahanol o’r grwpiau bwyd hyn, gan gynnwys mwy o fwydydd uchel mewn calorïau. Cyfeiriwch at yr adran isod ar gyfer profion sgrinio MUST a rheoli’r risg o ddiffyg maeth. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, cysylltwch â’r gwasanaeth Maeth a Deietig lleol.
Dyma’r pum grŵp bwyd:
- Tawts, bara, reis, pasta a bwydydd eraill llawn startsh
- Ffrwythau a llysiau
- Ffa, codlysiau, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill
- Cynnyrch llaeth a dewisiadau eraill
- Olewau a thaeniadau
Os ydych yn gweithio mewn cartref gofal, mae gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch anghenion maeth a hydradu a sut i gynllunio prydau bwyd ar gyfer preswylwyr, gan gynnwys y rheini sy’n dioddef o ddiabetes – Cyfeiriwch at Ganllawiau Bwyd a Maeth ar gyfer Pobl Hŷn mewn Cartrefi Gofal – Canllawiau Arfer Orau gan Lywodraeth Cymru, sydd ar gael yma: Canllawiau bwyd a maeth ar gyfer pobl hŷn mewn cartrefi gofal | LLYW.CYMRU.

Tatws, bara, reis, pasta a bwydydd eraill llawn startsh (yn cynnwys carbohydradau llawn startsh)
1-2 ddogn fesul pryd o fwyd – yn dibynnu ar bwysau’r corff a gweithgareddau corfforol. Ceisiwch gynnwys fersiynau grawn cyflawn pan mae’n bosibl.
Mae dogn yn gyfartal â 2 – 3 llwy fwrdd o rawnfwyd brecwast; 1 tafell o fara; 2-3 llwy de o reis wedi’i goginio, pasta, tatws stwnsh; 2 daten newydd; 2-3 chracer/bara cras; 5 – 8 sglodyn.
Ffrwythau a llysiau
Maent yn llawn fitaminau, mwynau a ffibr. Anelwch at gynnig o leiaf 5 dogn y diwrnod. Dogn yw 2-3 llwy fwrdd o lysiau neu 1 ffrwyth e.e. 1 afal/gellygen/oren/llond llaw o rawnwin/llwy fwrdd gwastad o ffrwythau sych/gwydraid bach o sudd ffrwythau.
Cewch roi unrhyw ffrwyth, ac mae’r cwbl yn cynnwys siwgrau naturiol sy’n rhyddhau egni yn araf.
Cig, pysgod, wyau, ffa a ffynonellau eraill o brotein nad ydynt yn gynnyrch llaeth
Maent yn bwysig i adfer cyhyrau’r corff a gallant helpu i gynnal màs cyhyrau ac felly lleihau eiddilwch. Anelwch at 2 – 3 dogn bob diwrnod.
Dogn yw: 2 – 3 owns (50-80g) o gig coch, cyw iâr; 4 – 5 owns (120-150g) o bysgod; 2 wŷ; tun bach o ffa/3 llwy fwrdd o godlysiau/ffacbys.
Llaeth a chynnyrch llaeth
Mae’r grŵp hwn yn bwysig ar gyfer iechyd yr esgyrn, ac ar wahân i gaws, maent yn cynnwys siwgrau naturiol sy’n rhyddhau egni yn araf. Anelwch at 3 dogn bob diwrnod.
Dogn yw: 1/3-peint o laeth; Potyn bach o iogwrt/fromage frais; 2 lwy fwrdd o gaws colfran; 1½ owns (30g) o gaws (maint bocs matsis bach); dogn bach o gwstard (150ml).
Olewau a Thaeniadau
Dogn yw 1 – 2 lwy de o olew/marjarîn/menyn.

Bwydydd a diodydd sy’n uchel mewn braster a/neu siwgr
Mae’r rhain yn cynnwys cynnyrch fel siocled, teisennau, bisgedi, diodydd meddal llawn siwgr, menyn a hufen iâ. Nid oes angen bwydydd fel hyn yn y deiet ac felly, os cânt eu cynnwys, dylid gwneud hynny yn anaml ac mewn symiau bach. Mae bwydydd a diodydd sy’n llawn braster a siwgr yn cynnwys llawer o egni, yn enwedig mewn dognau mawr. Mae’n bosibl bod y rhain yn cael eu cynnwys os yw’r preswyliwr wedi’i adnabod o fod mewn risg o ddiffyg maeth (cyfeiriwch at Gynllun Gofal Maeth).
Dogn yw 1 – 2 lwy de o mayonnaise/dresin salad; 1 sgŵp o hufen iâ/1 llwy de o hufen; 1 bar bach o siocled/bisged siocled; Paced bach o greision; 2 lwy de o siwgr/jam/mel.
Pa fwydydd sy’n effeithio ar lefelau glwcos yn y gwaed?
Mae pob bwyd carbohydrad yn torri i lawr yn glwcos, sydd wedyn yn effeithio ar lefelau glwcos yn y gwaed. Mae’r rhain yn cynnwys carbohydradau llawn startsh (y grŵp bara, tatws, reis); y siwgrau ‘ychwanegol’ o’r grŵp brasterau a siwgrau; a’r siwgrau naturiol o’r grŵp llaeth a ffrwythau. Mae deiet iachus, cytbwys yn helpu i reoli pwysau a rheoli lefelau glwcos yn y gwaed.
Nodyn ymarferol:
Dylai fod bwydydd llawn startsh yn cyfrif oddeutu traean o ddeiet bob dydd
• Dylai fod bwydydd llawn startsh yn cyfrif oddeutu traean o ddeiet bob dydd
• Cynhwyswch opsiynau grawn cyflawn a ffibr uchel
• Os yw lefelau glwcos yn y gwaed yn uchel, ystyriwch ddognau ac ansawdd
Gofal Maethol ar gyfer Pobl sy’n dioddef o Ddiabetes ac sydd mewn Risg o Ddiffyg Maeth
Dylid sgrinio’n fisol pob preswylydd Cartref Gofal ac oedolion hŷn sy’n derbyn gofal yn y cartref er mwyn adnabod eu risg o ddiffyg maeth ac i sicrhau bod cynlluniau gofal priodol ar waith. Mae MUST yn adnodd sgrinio dilys ar gyfer sgrinio ledled Cymru.
I’r rheini sydd wedi’u hadnabod mewn risg ganolig neu uchel – dylid ymgymryd â dull gweithredu “bwyd yn gyntaf”, ac i’r rheini sydd wedi’u hadnabod mewn risg uchel, ystyriwch atgyfeirio at y dietegydd.
Strategaethau i’w dilyn:
Adnodd Sgrinio Cyffredinol am Ddiffyg Maeth (Malnutrition Universal Screening Tool (MUST))
RHAID Sgôrio 0 – Risg Isel
Nodyn ymarferol: Gordewdra
Gall fod yn anodd iawn i bobl golli pwysau mewn cartref gofal, yn enwedig os na allant symud gystal. Mae empathi a dealltwriaeth yn allweddol, gall codi’r mater yn sensitif ac egluro buddion colli pwysau fod o gymorth. Gall gweithgarwch corfforol (yn dibynnu ar allu) ynghyd â lleihau y calorïau fymryn helpu i naill ai gynnal pwysau neu golli ychydig o bwysau. Cynigiwch ddiodydd isel mewn siwgr/dim siwgr ychwanegol. Mae hon yn ffordd rwydd o leihau’r cymeriant carbohydradau cyffredinol.
RHAID Sgôrio 1 – Risg Ganolig
Sgrinio eto ar ôl mis:
- Os yw’r sgôr wedi gwella, parhewch â’r cynllun am fis arall, yna lleihewch yn raddol faint ydych chi’n cyfnerthu’r bwyd.
- Os na welir unrhyw newid neu os yw’n gwaethygu, ystyriwch driniaeth arbenigol isod.
- Os yw’n gwaethygu, dilynwch y cynllun gofal maeth RISG UCHEL
- Asesiad risg iechyd y geg
- Darparu/mewnosod cyngor Bwyd Da Gyntaf
- Darparu byrbrydau rhwng prydau bwyd a diodydd maethlon cartref
- Sicrhau bod unrhyw gymorth sydd ei angen ar gyfer bwyta ac yfed yn cael ei ddarparu
- Sicrhau bod unrhyw argymhellion yn ymwneud ag addasu gweadau bwyd a hylif yn cael eu dilyn ac y dilynir unrhyw gyngor penodol ar gyfer bwyta neu yfed, h.y. ystum wrth fwyta ar gyfer llyncu
- Pwyso bob wythnos (os na ellir pwyso, defnyddiwch Gylchedd Canol Rhan Uchaf y Fraich).
- Defnyddio siartiau bwyd a hylif i gofnodi cymeriant bwyd a hylif am 3 diwrnod. Mewn lleoliadau preswyl, defnyddiwch siartiau cymeriant ac allbwn bwyd dyddiol ac wythnosol Cymru gyfan.
RHAID Sgôrio mwy na 2 – RISG UCHEL
Os nad oes gwelliant, ystyriwch yr isod:
Atgyfeiriwch at eich adran dieteg leol am asesiad a chyngor mwy manwl.
Dilynwch y canllawiau lleol neu gofynnwch am bresgripsiwn o ychwanegiadau maeth drwy’r geg, e.e. 2 y diwrnod am 4 – 12 wythnos*.
Noder na fydd yr ychwanegiadau hyn yn addas ar gyfer cleifion sydd â chlefyd cronig yn yr arennau camau 4 a 5).
Awgrymiadau ymarferol i gefnogi pobl sydd â diabetes ac mewn risg o ddiffyg maeth:
- Cynlluniwch ar gyfer tri phryd o fwyd y diwrnod. Ceisiwch osgoi methu prydau bwyd a sicrhewch fod gennych amser ar gyfer brecwast, cinio a phryd gyda’r nos yn ystod y diwrnod. Nid yn unig y bydd hyn yn helpu i reoli chwant bwyd ond hefyd bydd yn helpu i reoli lefelau glwcos yn y gwaed
- Cynhwyswch garbohydradau llawn startsh gyda phob pryd o fwyd: mae’r gyfran a fwyteir yn bwysig i reoli lefelau glwcos
- Cynigiwch fyrbrydau uchel mewn protein, megis caws a bisgedi a/neu ddiodydd llawn maeth, e.e. llaeth
- Os yw’r lefelau glwcos yn uwch, PEIDIWCH Â RHOI’R GORAU i roi ychwanegiadau maeth drwy’r geg, os ydynt wedi’u presgripsiynu
- Siaradwch â’r meddyg teulu neu’r Dietegydd

Cwestiynau Cyffredin
Bydd ymgymryd â phrawf sgrinio MUST yn rheolaidd yn adnabod unigolion sydd mewn risg o ddiffyg maeth. Mae nifer o fesurau ar waith i’r rheini sydd wedi’u hadnabod mewn risg ganolig. Ystyriwch ofyn i’r meddyg teulu atgyfeirio’r unigolyn at yr adran ddieteg leol am asesiad a chyngor os yw unigolyn mewn risg uwch. Os allwch chi, ewch ati i fonitro lefelau glwcos yn y gwaed er mwyn osgoi hypoglycemia, yn enwedig ymhlith y rheini sy’n cymryd meddyginiaethau gel gliclasid ac inswlin. Gofynnwch am adolygiad gan nyrsys diabetes cymunedol neu’r meddyg teulu os yw’r lefel glwcos yn y gwaed yn mynd yn isel neu’n uchel iawn.
Gofynnwch am gymorth gan y meddyg teulu a all atgyfeirio’r unigolyn at yr adran lleferydd ac iaith am asesiad llyncu. Efallai y bydd angen addasu gweadau bwyd a/neu dewychu hylifau ar gyfer pobl sy’n cael trafferthion llyncu. Bydd hyn yn eu helpu i reoli bwyd a diodydd yn ddiogel. Dylai Cartrefi Gofal/Nyrsio gyfeirio at ddisgrifiad addasu gweadau’r IDDSI – cyfeiriwch at Canllawiau bwyd a maeth ar gyfer pobl hŷn mewn cartrefi gofal l LLYW.CYMRU. https://gov.wales/food-and-nutrition-guidance-older-people-care-homes
Os ydych yn ofalwr, cyfeiriwch yn gyntaf at y brif nyrs (os ydych mewn cartref gofal/nyrsio). Gofynnwch am adolygiad brys gan y nyrsys diabetes cymunedol neu’r meddyg teulu.
Gall rhai unigolion gael blinder blas os ydynt yn cymryd ychwanegiadau maeth ar bresgripsiwn am gyfnod estynedig. Mae amrywiaeth o ychwanegiadau maeth ar gael a ffyrdd y gallwch ddarparu amrywiaeth o ddiodydd neu fyrbrydau addas sy’n llawn maeth. Os yw’r unigolyn dan ofal dietegydd cymunedol, gofynnwch am adolygiad a rhagor o gyngor, fel arall siaradwch â’r meddyg teulu.
Nid oes angen byrbrydau ychwanegol bob tro ar bobl hŷn iach diabetig nad ydynt mewn risg o ddiffyg maeth ac yn aml gallant fwynhau deiet cytbwys, iach yn cynnwys prydau bwyd rheolaidd. Efallai fod angen prydau bwyd llai, mwy aml neu fyrbrydau/swper ychwanegol ar rai unigolion, megis y rheini sydd â chwant bwyd gwael neu nad ydynt yn bwyta llawer, a’r rheini sydd mewn risg o ddiffyg maeth neu sy’n cymryd meddyginiaethau penodol.
Caiff, gall deiet iach gynnwys ychydig o siwgr. Nid yw’n cael ei ystyried yn ddeiet heb siwgr. Ceir siwgrau naturiol mewn ffrwythau a chynhyrchion llaeth ac mae’r bwydydd hyn yn cynnig fitaminau, mwynau a ffibrau hefyd. Cyfyngwch siwgrau ychwanegol o fwydydd megis teisenni, bisgedi, siocled a diodydd llawn siwgr. Gall y bwydydd hyn gynyddu lefelau glwcos a gall achosi i’r unigolyn fagu pwysau diangen os yw’n bwyta dognau mawr. Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes wedi’i adnabod i fod mewn risg o ddiffyg maeth, gellir cynnwys bwydydd sy’n uchel mewn siwgr fel rhan o’u cynllun gofal maeth.
Gellir cynnwys cydbwysedd da o ffrwythau a llysiau bob diwrnod. Wedi dweud hynny, gall bwyta cyfran fawr o ffrwythau ar yr un pryd achosi lefelau glwcos uchel yn y gwaed. Er mwyn osgoi lefelau glwcos uwch, dylai’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes gael ei annog i fwyta un dogn o ffrwythau ar y tro a rhannu dognau eraill ar adegau gwahanol o’r diwrnod.
Nid oes modd mwyach labelu bwydydd yn rhai diabetig neu’n addas ar gyfer pobl ddiabetig, ond ceir eu labelu’n ‘Dim siwgr ychwanegol’ y gellir eu defnyddio fel rhan o ddeiet cytbwys, (gweler yr adran Labelu Bwyd). Gellir defnyddio llai o siocled neu jam arferol. Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes wedi’i adnabod i fod mewn risg o ddiffyg maeth, gellir cynnwys bwydydd sy’n uwch mewn siwgr fel rhan o’i gynllun gofal maeth.
Nid yw meluswyr yn effeithio lefelau glwcos yn y gwaed a chânt eu defnyddio’n aml yn lle siwgr. Gellir eu cynnwys os ydyw’n well gan breswylwyr eu defnyddio.
Mae pwdinau yn ychwanegu carbohydrad at bryd bwyd a all fod yn ofynnol os oes gan glaf chwant bwyd gwael neu os ydyw mewn risg o ddiffyg maeth. Os yw’r unigolyn sy’n dioddef o ddiabetes yn bwyta’n dda ac nad ydyw mewn risg o ddiffyg maeth, gall pwdinau gynyddu lefelau glwcos yn y gwaed a’i achosi i fagu pwysau diangen. Anogwch yr unigolyn i wneud penderfyniadau mwy iachus mewn perthynas â phwdin neu gynnig dognau llai yn llai aml. Nid oes angen gwneud pwdinau ar wahân gyda meluswyr ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddiabetes.
Weithiau, gall fod yn brofiad anodd ymwneud ag ymwelwyr sy’n hoffi dod â bwydydd a diodydd ychwanegol i’w perthnasau. Nid yw nifer o ymwelwyr yn ymwybodol y gall bwydydd neu ddiodydd penodol effeithio ar ddiabetes ac achosi lefelau glwcos uchel. Os allwch chi, siaradwch a’r teulu/ymwelwyr a chynigiwch rai opsiynau eraill neu efallai syniadau ar gyfer eitemau nad ydynt yn fwyd nac yn ddiod a fyddai’n rhoi gwên ar wyneb yr unigolyn, megis cylchgrawn neu flodau.
Mae unrhyw weithgaredd sy’n annog pobl ddiabetig sy’n gallu gwneud, i symud o gwmpas fwy a threulio llai o amser yn eistedd o fudd. Anogwch y rhai sy’n gallu gwneud i gerdded at yr ardaloedd bwyta neu ymlacio ar gyfer prydau bwyd a gweithgareddau, neu dreulio amser yn yr ardd yn yr awyr agored (os oes lle felly ar gael).