Mae lefelau glwcos yn rhan bwysig o reoli diabetes. Dylid cytuno ar dargedau gan yr unigolyn a/neu’r gofalwr a’r arbenigwr gofal iechyd. Cytunir ar dargedau er mwyn darparu sylfaen er mwyn ein cynorthwyo i ddeall pa un ai a yw lefelau glwcos rhywun yn rhy uchel, yn rhy isel neu o fewn y targedau argymelledig. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn derbyn lefel resymol o ofal diabetes i sicrhau ei fod yn ddiogel ac i osgoi cymhlethdodau yn y tymor byr a’r hirdymor.
Nod rheoli diabetes ymhlith pobl eiddil a hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yw osgoi hypoglycemia (lefel isel o glwcos yn y gwaed) a hyperglycemia (lefel uchel o glwcos yn y gwaed), a allai arwain at gynnydd yn y nifer o dderbyniadau i’r ysbyty, a gwaethygu cyflyrau eraill a all effeithio ar eu hansawdd bywyd. Mae canllawiau ar gael yn nodi’r targedau argymelledig, ond dylai’r rhain fod yn benodol i unigolion ac wedi’u cytuno gan eu meddyg teulu, a dylent fod yn rhan o gynllun gofal teilwredig.
Mae lefelau glwcos argymelledig yn anodd eu diffinio yn y grŵp oedran hŷn a dylid eu teilwra yn ôl eu gallu i fyw bywyd; cyflyrau cronig eraill; eiddilwch a gallu gwybyddol.1C.E. Hambling a,b,*, K. Khunti b, X. Cosc , J. Wens d, L. Martineze , P. Topsever f , S. Del Prato g, A. Sinclair h, G. Schernthaner i , G. Ruttenj , S. Seidu (2018) Original research. Factors influencing safe glucose-lowering in older adults with type 2 diabetes: A PeRsOn-centred ApproaCh To IndiVidualisEd (PROACTIVE) Glycemic Goals for older people A position statement of Primary Care Diabetes Europe. Elsevier Ltd ar ran behalf of Primary Care Diabetes Europe2Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty accessed from: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021.
Hypoglycaemia yw llai na 4.0 mmol/l.
Anelwch at darged glwcos o 6 – 12 mmol/L.
Yn ystod diwrnodau olaf bywyd, anelwch at lefel sy’n uwch na 8.0 mmol/L
Gwyddys y gall hypoglycemia arwain at waethygu materion gwybyddol ymhellach a chyflymu’r broses heneiddio3Bruce DG; Davis WA; Casey GP; Clarnette RM; Brown SGA; Jacobs IG; Almeida OP; Davis TME (2009) Severe hypoglycaemia and cognitive impairment in older patients with diabetes: the Fremantle Diabetes Study.
Yn yr un modd, gall hyperglycemia arwain at heintiau, oedi’r broses wella a chynyddu’r risg o gymhlethdodau cardiofasgwlaidd a gwaethygu cyflyrau eraill ac agweddau eraill ar fywyd unigolyn. Y canllawiau i oedolion hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yw cynnal lefelau glwcos rhwng 6 – 12 mmol/L. The End of Life Diabetes Guidance recommend maintaining a glucose level above 8.0mmol/L4Mae’r Canllawiau Diabetes Diwedd Oes yn argymell lefel glwcos yn uwch na 8.0mmol/L4. https://diabetes-resources-production.s3.eu-west-1.amazonaws.com/resources-s3/public/2021-11/EoL_TREND_FINAL2_0.pdf (gweler adran 18 gofal diwedd oes).
Yn ddelfrydol, dylai targedau fod yn addas i’r unigolyn, eu cytuno a’u dogfennu fel rhan o’r cynllun gofal: Fideo Glwcos Gwaed
Profion monitro glwcos
o ddydd i ddydd
Monitro Glwcos Ysbeidiol
(Fflach) neu Barhaus
Nod monitro lefelau glwcos yw: cadw pobl yn
- ddiogel
- osgoi symptomau
- hyrwyddo ansawdd bywyd
Dylid gwneud profion glwcos gan y rheini sy’n gymwys i’w gwneud a dylid eu gwneud yn unol â’r canllawiau sylfaenol. Gellid gwneud hyn drwy wneud prawf pigo bys neu gan ddefnyddio technoleg megis monitro ‘fflach’ e.e. Systemau monitro Libre.
Dylai’r arbenigwr gofal iechyd ddweud pa mor aml y dylid monitro. (gweler yr adran Cyngor ar Fonitro Glwcos a Chetonau).
Mae hwn ar gael i bobl sydd â diabetes ac sy’n cymryd inswlin; sydd efallai’n cael hypos difrifol neu yn aml; sydd efallai’n methu â gwneud prawf pigo bys neu sydd angen gwneud prawf glwcos wyth tro neu fwy mewn diwrnod (NICE 2022). 5NICE (2022b) Type 1 diabetes in adults: diagnosis and management. NG17. NICE, Llundain. Ar gael yn: https://www.nice.org.uk/ guidance/ng17; NICE (2022c); Type 2 diabetes in adults: management. NG28. NICE, Llundain. Ar gael yn: https://www.nice.org.uk/guidance/ng28 (cyrchwyd 22/07/24). Quality statement 4: Continuous glucose monitoring for adults who use insulin and need help monitoring their blood glucose | Type 2 diabetes in adults | Quality standards | NICE (cyrchwyd 22/07/2024).
Mae’n bosib gosod disg bach, sef synhwyrydd, ar wahanol rannau o’r corff. Mae’r synhwyrydd yn monitro lefelau glwcos yn yr hylif (nid yn y gwaed). Gallwch weld y canlyniadau ar fesurydd (sydd hefyd yn cael ei alw’n ddarllenydd) ac mae angen ei sganio neu ei ‘fflachio’ ar draws y synhwyrydd o leiaf bob wyth awr. Mae’n bosib gweld darlleniadau glwcos ar ddyfais neu ffôn symudol (clyfar) yn barhaus.
Os yw’r lefelau glwcos yn isel neu’n uchel, y cyngor yw y dylid profi lefelau glwcos gwaed ar yr adegau hynny i sicrhau cywirdeb. Felly, dylai pobl sy’n defnyddio’r dechnoleg hon barhau i gael presgripsiwn am offer monitro glwcos gwaed a stribedi profi.
Prawf HbA1c
Prawf gwaed yw hwn, lle tynnir gwaed o wythïen yn y fraich. Gellir ei wneud ar unrhyw adeg o’r diwrnod. Caiff ei ddefnyddio i fesur y cyfrif glwcos yn y gwaed dros gyfnod o 2 – 3 mis a chaiff ei fesur mewn mmol/mol. Mae’r prawf hwn yn dynodi pa mor dan reolaeth yw diabetes rhywun.
Mae’r tabl isod yn argymell yr ystod HbA1c yn seiliedig ar eiddilwch yr unigolyn. Felly er enghraifft, yn achos oedolyn hŷn heini sy’n dioddef o ddiabetes, dylem anelu at gyflawni HbA1c o rhwng 53 – 58 mmol/l6Strain W, Hope S, Green A, Kar P, Valabhji J, Sinclair A. Type 2 diabetes mellitus in older people: a brief statement of key principles of modern day management including the assessment of frailty. A national collaborative stakeholder initiative. Diabet Med 2018; 35 (7): 838–845..
Y gred yw nad oes llawer o bobl 70 oed neu hŷn sy’n dioddef o ddiabetes yn elwa ar gael lefelau glwcos llym gyda HbA1c llai na 53 mmol/L.7Clegg A, Bates C, Young J et al. Development and validation of an eletronic frailty index using routine primary care electronic health record data. Age Ageing 2016; 45: 353-360.
Sgôr Mynegai Eiddilwch Electronig8De Blase S. The Electronic Frailty Index Guidance Notes. Yorkshire and Humber Academic Health Science Network Improvement Academy. Available at: https://www.improvementacademy.org/ | Trothwy Isaf | Trothwy Uchaf |
---|---|---|
Oedolyn hŷn heini sy'n dioddef o ddiabetes | HbA1c 53 mmol/mol | HbA1c 58 mmol/mol |
Eiddilwch cymedrol—difrifol | HbA1c 58 mmol/mol | HbA1c 64 mmol/mol |
Eiddilwch difrifol iawn | HbA1c 64 mmol/mol | HbA1c 70 mmol/mol |
Mae graddfa eiddilwch clinigol gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Chlinigol yn rhoi peth eglurhad i ddiffinio eiddilwch8 (i’r rheini mewn sefyllfa gofal critigol) ond dylid bod yn ofalus defnyddio’r raddfa hon yn achos unigolion sy’n ieuengach na 65 oed.
Oedolion hŷn sydd wedi'i asesu ag eiddilwch cymedrolving moderate frailty | Yn ôl sgôr Eiddilwch y DU, golyga hyn eu bod angen cymorth gyda phob gweithgaredd yn yr awyr agored, gwaith tŷ yn cynnwys angen peth cymorth gyda gofal personol, megis mynd i'r bath a gwisgo. Gallant ei chael hi'n anodd gyda grisiau. |
Oedolion hŷn ag eiddilwch difrifol | Yn gwbl ddibynnol ar gyfer gofal personol, boed hynny oherwydd rhesymau corfforol neu wybyddol. Yn ôl y raddfa, gall yr unigolyn ymddangos yn sefydlog a heb fod mewn risg uchel o farw cyn pen 6 mis. |
Oedolion ag eiddilwch hynod ddifrifol | Yn gwbl ddibynnol ac yn agosáu at ddiwedd eu hoes. Mae'n annhebygol o wella hyd yn oed o fân salwch. |
Addaswyd o Strain S et al (2018), dyfynnwyd yn Sinclair A (2019)
Targedau Eiddilwch a Glwcos
Byddai pobl sydd yn y grŵp eiddilwch cymedrol i ddifrifol a difrifol iawn mewn risg uwch o hypoglycemia (lefel glwcos isel) a’i gymhlethdodau. Felly, targed realistig ar gyfer lefelau glwcos a HbA1c fyddai ei osod yn uwch. Byddai hwn yn ddull mwy diogel i leihau risgiau o hypoglycemia heb achosi symptomau o hyperglycemia (lefelau glwcos uchel) a all effeithio ar ansawdd bywyd.
Darllen pellach
Cyrchwyd o: Clinical Frailty Scale – Specialised Clinical Frailty Network (scfn.org.uk) ar 28/09/2021
- Dylai pobl sy’n dioddef o ddiabetes ac sy’n 65 oed a hŷn gael asesiad eiddilwch, yn cynnwys difrifoldeb eiddilwch
- Dylai targedau glwcos fod yn synhwyrol, yn ddiogel ac yn briodol
- Y nod yw osgoi hypoglycemia a hyperglycemia, a allai arwain at gynnydd yn y nifer o dderbyniadau i’r ysbyty, a gwaethygu cyflyrau eraill a all effeithio ar ansawdd bywyd
- Dylai arbenigwr gofal iechyd wirio ac adolygu meddyginiaethau pob oedolyn hŷn sydd â diabetes ac sy’n eiddil o leiaf bob blwyddyn, fel rhan o’i adolygiad diabetes.8Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty, cyrchwyd o: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021
07 Profi and Thargedau Glwcos
- 1C.E. Hambling a,b,*, K. Khunti b, X. Cosc , J. Wens d, L. Martineze , P. Topsever f , S. Del Prato g, A. Sinclair h, G. Schernthaner i , G. Ruttenj , S. Seidu (2018) Original research. Factors influencing safe glucose-lowering in older adults with type 2 diabetes: A PeRsOn-centred ApproaCh To IndiVidualisEd (PROACTIVE) Glycemic Goals for older people A position statement of Primary Care Diabetes Europe. Elsevier Ltd ar ran behalf of Primary Care Diabetes Europe
- 2Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty accessed from: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021
- 3Bruce DG; Davis WA; Casey GP; Clarnette RM; Brown SGA; Jacobs IG; Almeida OP; Davis TME (2009) Severe hypoglycaemia and cognitive impairment in older patients with diabetes: the Fremantle Diabetes Study
- 4Mae’r Canllawiau Diabetes Diwedd Oes yn argymell lefel glwcos yn uwch na 8.0mmol/L4. https://diabetes-resources-production.s3.eu-west-1.amazonaws.com/resources-s3/public/2021-11/EoL_TREND_FINAL2_0.pdf
- 5NICE (2022b) Type 1 diabetes in adults: diagnosis and management. NG17. NICE, Llundain. Ar gael yn: https://www.nice.org.uk/ guidance/ng17; NICE (2022c); Type 2 diabetes in adults: management. NG28. NICE, Llundain. Ar gael yn: https://www.nice.org.uk/guidance/ng28 (cyrchwyd 22/07/24). Quality statement 4: Continuous glucose monitoring for adults who use insulin and need help monitoring their blood glucose | Type 2 diabetes in adults | Quality standards | NICE (cyrchwyd 22/07/2024).
- 6Strain W, Hope S, Green A, Kar P, Valabhji J, Sinclair A. Type 2 diabetes mellitus in older people: a brief statement of key principles of modern day management including the assessment of frailty. A national collaborative stakeholder initiative. Diabet Med 2018; 35 (7): 838–845.
- 7Clegg A, Bates C, Young J et al. Development and validation of an eletronic frailty index using routine primary care electronic health record data. Age Ageing 2016; 45: 353-360
- 8Sinclair A (2019) Key learning points: diabetes in older people with frailty, cyrchwyd o: Key learning points: diabetes in older people with frailty | Key learning points | Guidelines in Practice 29/09/2021