This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.
Croeso i Adnodd Addysg a Gwybodaeth Diabetes
Wrth i boblogaeth y DU fyw’n hirach, mae mwy o bobl yn byw mewn cartrefi gofal ac yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain. Argymhellir y bydd poblogaeth gyfredol cartrefi gofal nyrsio a chartrefi preswyl y DU o 450,000 yn cynyddu i 1,130,000 yn y 50 mlynedd nesaf. Argymhellir y gall oddeutu 1 ym mhob 4 o breswylwyr cartrefi gofal fod yn dioddef o ddiabetes, ond mae nifer mewn cartrefi gofal sy’n dioddef o ddiabetes ond heb gael diagnosis.
Nod yr adnodd hwn yw:
- Cynnig addysg a gwybodaeth sylfaenol ynghylch diabetes
- Sicrhau gofal cyfartal i bawb sy'n dioddef o ddiabetes ac sy'n derbyn gofal
- Cefnogi'r rheini sy'n darparu gofal yn y cartref drwy ganllawiau ymarferol a chyngor
Mae ein hadnoddau yma i’ch helpu chi i wella’ch dealltwriaeth a’ch gwybodaeth am ddiabetes. Os ydych yn amau nad yw rhywun yr ydych yn gofalu amdano yn ymwybodol bod ganddo symptomau, rhowch wybod i’r meddyg teulu neu’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arferol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni.